Mae person mewn tlodi incwm cymharol pan ei bod yn byw mewn cartref lle’r oedd cyfanswm incwm yr aelwyd o bob ffynhonnell yn llai na 60 y cant o incwm aelwyd gyfartalog y DU (fel y rhoddir gan y canolrif).
2. Aelwydydd rhieni sengl oedd y math o deulu a oedd
fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol
• Yr oedd 46 y cant o bobl mewn aelwydydd rhieni sengl a 31 y cant o bobl
mewn aelwydydd menywod sengl heb blant yn byw mewn tlodi incwm
cymharol ar ôl costau tai yn y cyfnod 2014-15 i 2016-17 (cyfartaledd dros
dair blwyddyn ariannol).
• Mewn cymhariaeth, roedd 15 y cant o bobl a oedd yn byw mewn
aelwydydd cyplau heb blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol.
3. Canran y bobl ym mhob math o deulu yng Nghymru, a oedd yn byw
mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), 2014-15 i 2016-17
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o HBAI, Arolwg Adnoddau Teuluoedd, DWP
15
18
19
22
24
30
31
46
0 10 20 30 40 50
Cwpwl heb blant
Dyn sengl sy'n bensiynwr
Cwpwl sy'n bensiynwyr
Cwpwl â phlant
Menyw sengl sy'n bensiynwraig
Dyn sengl heb blant
Menyw sengl heb blant
Unig riant
4. Pa fath o deuluoedd sy'n byw mewn tlodi?
• Yn y gorffennol, roedd y rhan fwyaf o bobl a oedd yn byw mewn tlodi
incwm cymharol yn byw mewn cartrefi â phlant.
• Fodd bynnag, mae'r patrwm bellach yn llai clir gyda chyfran debyg
o'r rhai sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw mewn cartrefi â
phlant a heb blant.
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o HBAI, Arolwg Adnoddau Teuluoedd, DWP
Y bobl yng Nghymru a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl
costau tai), yn ôl math o deulu, 2014-15 i 2016-17
Nodyn Mae teuluoedd yma yn cynnwys pobl sengl
19
47
34 Teuluoedd pensiynwyr
Teuluoedd gyda phlant
Teuluoedd heb blant
5. Yr oedd bron i hanner y plant a oedd yn byw mewn
teuluoedd un rhiant yn byw mewn tlodi incwm cymharol
• Yr oedd 47 y cant o blant a oedd yn byw mewn teuluoedd un rhiant yn
byw mewn tlodi incwm cymharol yn y cyfnod diweddaraf, 2014-15 i 2016-
17. Nid yw'r ffigwr hwn wedi newid o'r cyfnod diwethaf yn diweddu 2015-16
ar ôl cynyddu'n gyson ers 2010-11 i 2012-13.
• Er, yn gyffredinol, fod plant mewn aelwydydd â chyplau hanner cant y cant
mor debygol o fod mewn tlodi incwm cymharol â’r rhai mewn aelwydydd un
rhiant, ymddengys y caiff hyn ei yrru’n llwyr gan statws gwaith. Hynny
yw, mae’r risg o dlodi incwm cymharol ar gyfer plant mewn aelwydydd lle
ceir cyplau nad ydynt yn gweithio yn debyg i’r rhai mewn aelwydydd rhiant
sengl heb fod yn gweithio, sef oddeutu dwy ran o dair*.
* Er bod y ffigwr diweddaraf yn cael ei atal oherwydd maint sampl fach, dyma'r patrwm a welwyd yn y
blynyddoedd blaenorol.
6. Roedd plant sy'n byw mewn cartrefi lle'r oedd y plentyn ieuengaf
rhwng 0 a 4 oed yn cyfrif am ychydig llai na hanner yr holl blant a
oedd mewn tlodi incwm cymharol
Plant yng Nghymru a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl
costau tai), yn ôl oedran plentyn ieuengaf y teulu, 2013-14 i 2016-17
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o HBAI, Arolwg Adnoddau Teuluoedd, DWP
Oedran plentyn
ieuengaf y teulu
80,000;
44%
50,000;
28%
40,000;
22%
10,000;
6%
0-4 oed
5-10 oed
11-15 oed
16-19 oed
7. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r gwahaniaeth
yn nhebygrwydd o fod mewn tlodi incwm cymharol
rhwng teuluoedd mwy a llai wedi lleihau tipyn
• Yn y cyfnod mwyaf diweddar (2014-15 i 2016-17), roedd y tebygrwydd o fod
mewn tlodi incwm cymharol yn debyg i'r plant hynny oedd yn byw mewn
cartref gydag un, dau a thri o blant yn byw ynddynt.
• Fodd bynnag, mewn cyfnodau blaenorol roedd plant mewn teuluoedd mwy
(tri neu fwy) yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol ac roedd y
bwlch rhwng y ffigurau hyn yn llawer mwy.
• Yn ystod y cyfnod 2011-12 i 2013-14, roedd 48 y cant o blant o gartrefi â thri
neu ragor o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol o'i gymharu â 28 a 22
y cant o blant mewn tlodi incwm cymharol o aelwydydd gydag un neu ddau
o blant yn y drefn honno.
8. Canran y plant ym mhob maint teulu yng Nghymru a oedd yn byw
mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), cyfartaleddau tair
blwyddyn ariannol
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o HBAI, Arolwg Adnoddau Teuluoedd, DWP
0
10
20
30
40
50
60
2007 i 2010 2008 i 2011 2009 i 2012 2010 i 2013 2011 i 2014 2012 i 2015 2013 i 2016 2014 i 2017
Un plentyn
Dau blentyn
Tri neu fwy o blant