Mae person mewn tlodi incwm cymharol pan ei bod yn byw mewn cartref lle’r oedd cyfanswm incwm yr aelwyd o bob ffynhonnell yn llai na 60 y cant o incwm aelwyd gyfartalog y DU (fel y rhoddir gan y canolrif).
3. Yr oedd pobl a oedd yn byw mewn tai cymdeithasol
ar rent yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm
cymharol (ar ôl costau tai)
• Yr oedd 48 y cant o’r rhai a oedd yn byw mewn tai cymdeithasol ar rent
yng Nghymru mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2014-15 a 2016-17
(cyfartaledd dros dair blwyddyn ariannol), ar ôl talu eu costau tai megis
taliadau llog morgais/rhent a threthi dŵr.
• Mae hyn yn golygu eu bod yn byw mewn cartrefi lle yr oedd cyfanswm
incwm yr aelwyd yn is na 60 y cant o gyfartaledd incwm aelwydydd y DU
(fel y nodir gan y canolrif).
• Mewn cymhariaeth, yr oedd 42 y cant o bobl a oedd yn byw mewn cartrefi
preifat ar rent a 13 y cant o bobl a oedd yn berchen-feddianwyr mewn
tlodi incwm cymharol ar ôl costau tai.
4. Canran y bobl yng Nghymru yn ôl deiliadaeth tai, a oedd yn byw
mewn tlodi incwm cymharol (ar ôl costau tai), 2014-15 i 2016-17
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o HBAI, Arolwg Adnoddau Teuluoedd, DWP
48
42
13
0
10
20
30
40
50
60
Rhentu cymdeithasol Rhentu preifat Perchen-feddiannwr
5. • Fodd bynnag, gan ystyried y 720,000 o bobl mewn tlodi incwm cymharol
yng Nghymru fel grŵp, yr oedd mwy ohonynt yn byw mewn cartrefi
perchen-feddianwyr (270,000) nac yn y naill na’r llall o’r categorïau rhentu
tai.
• Mae hyn oherwydd bod y rhan fwyaf o gartrefi yng Nghymru yn eiddo i
berchen-feddianwyr, tua dwy ran o dair yn ôl y Cyfrifiad diwethaf
Pobl yng Nghymru a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol
(ar ôl costau tai), yn ôl deiliadaeth tai, 2014-15 i 2016-17
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o HBAI, Arolwg Adnoddau Teuluoedd, DWP
240,000;
34%
210,000;
29%
270,000;
38%
Rhentu
cymdeithasol
Rhentu preifat
Perchen-
feddiannwr
7. Yr oedd y rhan fwyaf o blant a oedd mewn tlodi
incwm cymharol yn byw mewn aelwydydd lle yr oedd
rhywun yn gweithio
• Yn y cyfnod diweddaraf (2014-15 i 2016-17), yr oedd 64 y cant o blant a
oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw mewn aelwydydd lle yr
oedd o leiaf un person yn gweithio. Mae hyn wedi cynyddu am y ddau
gyfnod diwethaf o 60 y cant yng nghyfnod 2012-13 i 2014-15.
8. Plant yng Nghymru a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol (ar
ôl costau tai), yn ôl statws economaidd yr aelwyd,
cyfartaleddau tair blwyddyn ariannol
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o HBAI, Arolwg Adnoddau Teuluoedd, DWP
21 23 19 21 24
30 33 31
29
31 39
42 37
30 28 33
50 46 42
37 40 40 39 36
0
10
20
30
40
50
60
70
80
90
100
2007 i
2010
2008 i
2011
2009 i
2012
2010 i
2013
2011 i
2014
2012 i
2015
2013 i
2016
2014 i
2017
Aelwydydd heb
waith
O leiaf un
oedolyn yn
gweithio, ond
nid pob un
Pob oedolyn
yn gweithio
Canran
9. • Wrth ystyried pob plentyn yng Nghymru, mae'r tebygolrwydd o fod mewn
tlodi incwm cymharol yn llawer mwy, ac mae'r bwlch yn cynyddu i'r rhai sy'n
byw mewn cartref di-waith o'i gymharu â byw mewn cartref sy'n gweithio
(lle’r oedd o leiaf un o'r oedolion yn gweithio) .
• Roedd 72 y cant o blant sy'n byw mewn cartref di-waith mewn tlodi incwm
cymharol o'i gymharu â 21 y cant a oedd yn byw mewn cartref sy'n gweithio
yn 2014-15 i 2016-17.
Roedd bron i dri chwarter y plant mewn cartrefi di-waith
yn byw mewn tlodi incwm cymharol
10. Ar gyfer oedolion o oedran gweithio, y mae byw
gyda phobl sy’n gweithio yn lleihau’r tebygrwydd o
fyw mewn tlodi incwm cymharol
• Rhwng 2014-15 a 2016-17, yr oedd oedolion o oedran gweithio a oedd yn
byw mewn aelwydydd lle nad oedd neb yn gweithio, dros 7 gwaith yn fwy
tebygol o fod yn byw mewn tlodi incwm cymharol na'r rhai a oedd yn byw
mewn aelwydydd lle yr oedd pawb yn gweithio’n llawn-amser.
• Fodd bynnag yr oedd amcangyfrif o 50,000 o oedolion o oedran gweithio
a oedd yn parhau i fod mewn tlodi incwm cymharol er gwaethaf y ffaith eu
bod yn byw mewn aelwydydd lle yr oedd pawb yn gweithio’n llawn amser.
11. Canran yr oedolion o oedran gweithio yn ôl math o gyflogaeth yr
aelwyd yng Nghymru, a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol
(ar ôl costau tai), 2014-15 i 2016-17
Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o HBAI, Arolwg Adnoddau Teuluoedd, DWP
7
10
26
34
30
54
0
10
20
30
40
50
60
Pob un amser llawnCwpwl - un amser
llawn, un rhan-
amser
Un neu fwy yn
hunangyflogedig
Cwpwl - un amser
llawn, un ddim yn
gweithio
Neb amser llawn, un
neu fwy yn rhan-
amser
Heb waith