2. Dyma Gynllun
‘Rwy’n gwybod am awtistiaeth’
Wrth drafod awtistiaeth, rydyn ni’n cynnwys
pobl ac arnyn nhw anhwylderau’r sbectrwm
awtistaidd a Syndrom Asperger.
3. Gall awtistiaeth effeithio ar blant, pobl ifanc ac
oedolion.
Allwn ni ddim gwella awtistiaeth ond, trwy
ddysgu amdani, gallwn ni ei deall er lles pobl
mae’n effeithio arnyn nhw.
4. Ydych chi o’r farn bod modd gweld a oes gan
rywun awtistiaeth yn ôl yr olwg sydd arno?
5. Does dim modd gweld a oes awtistiaeth gan
rywun yn ôl yr olwg sydd arno.
Mae pob un o’r plant, y bobl ifanc a’r oedolion
sydd ag awtistiaeth yn wahanol, a gallai rhai
brofi mwy o anawsterau nag eraill.
6. Mae plant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag
awtistiaeth yn ei chael yn anodd deall a
gwneud rhai pethau.
Dyma gipolwg ar y rheiny...
8. Eich llygaid
(edrych ym myw llygaid rhywun
i ddangos eich bod yn gwrando
neu edrych yn gas ar rywun pan
foch chi’n grac)
Eich wyneb
(gwenu, gwgu ac ati)
Eich corff
(megis croesi’ch breichiau pan
foch chi’n ddig)
Eich dwylo
(bawd i fyny, clapio)
GeiriauBlah blah
blah
10. Pan fo rhywun yn ddig, bydd yn:
• Cau ei ddyrnau
• Syllu
• Gwgu
• Gweiddi
• Chwysu
• Troi’n goch, o bosibl
11. Mae plant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag
awtistiaeth yn ei chael yn anodd dyfalu sut
mae rhywun yn teimlo neu beth mae’n
meddwl amdano trwy edrych arno.
12. Felly, efallai na fyddan nhw’n sylweddoli eich
bod yn grac, yn drist neu’n cael hwyl pan foch
chi’n siarad â nhw.
Dylech chi geisio defnyddio geiriau bob amser i
ddangos sut rydych chi’n teimlo wrth siarad â
phobl sydd ag awtistiaeth.
13. Pa eiriau fyddai orau?
Os dywedwch chi rywbeth heb fod o difrif, fe
fydd plant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag
awtistiaeth yn ei chael yn anodd deall hynny.
Allwch chi nodi unrhyw bethau mae pobl
sydd heb awtistiaeth yn eu dweud heb
fod o ddifrif?
15. Wrth siarad â phlant, pobl ifanc ac oedolion sydd
ag awtistiaeth, mae’n bwysig -
Cyfleu’r ystyr yn eglur
16. Cyfeillion
Mae plant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag
awtistiaeth yn hoffi cwmni ffrindiau.
Yn aml, fodd bynnag, maen nhw’n ei chael yn
anodd hel a chadw ffrindiau.
Y rheswm dros hynny yw na fyddan nhw’n
gwybod sut rydych chi’n teimlo bob tro nac yn
sylweddoli eich bod wedi diflasu neu eu bod
yn swnio braidd yn od ichi.
17. Yn aml, mae plant a phobl ifanc sydd ag
awtistiaeth yn ffrindiau ffyddlon.
Gallwch chi eu helpu trwy ddefnyddio geiriau
sy’n eu galluogi i ddeall sut rydych chi’n teimlo
a’u dysgu nhw sut i sgwrsio gyda phlant a
phobl ifanc eraill.
18. Dychymyg
Mae plant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag
awtistiaeth yn ei chael yn anodd defnyddio eu
dychymyg weithiau.
Er enghraifft, chwarae ysgol fach neu fod yn
frenin a brenhines, dychmygu beth yw’ch barn
chi amdanyn nhw neu hyd yn oed sut y bydd
lleoedd a gweithgareddau newydd.
19. Sut y gallwch chi helpu?
• Chwarae gêmau lle nad oes angen dychymyg
megis lwdo, dal, rasio neu esgil.
• Bod yn garedig ac yn amyneddgar a’u holi a
ydyn nhw’n deall y gêm cyn dechrau.
• Defnyddio’ch geiriau i esbonio sut rydych chi’n
teimlo a pham rydych chi’n gwneud rhywbeth.
20. Byw yn ôl trefn
Mae rhai plant, pobl ifanc ac oedolion sydd ag
awtistiaeth yn hoffi gwneud yr un pethau yn
yr un modd neu ar yr un amser bob dydd.
Mae’n bosibl na fyddan nhw’n hoffi newidiadau
ac y byddan nhw’n disgwyl i’r un pethau
ddigwydd yn ôl yr un drefn bob dydd.
21. Gall newidiadau godi braw ar bobl sydd ag
awtistiaeth, weithiau.
Allwch chi nodi unrhyw newidiadau allai
boeni plant sydd ag awtistiaeth yn yr
ysgol?
22. Dyma rai newidiadau allai boeni plant sydd ag
awtistiaeth yn yr ysgol:
• Athro gwahanol
• Gwyliau’r ysgol
• Adeg y Nadolig (ymarferion, cyngherddau a
phartïon)
• Gwibdeithiau’r ysgol
• Disgyblion newydd
• Symud i ystafell ddosbarth arall
• Eistedd mewn lle gwahanol
25. Efallai y bydd synhwyrau plant, pobl ifanc ac
oedolion sydd ag awtistiaeth yn fwy agored.
O ganlyniad, gallan nhw fod yn ofnus mewn lle
swnllyd neu wrth glywed sŵn megis peiriant
sychu dwylo.
Efallai na fyddan nhw am i neb gyffwrdd â
nhw, nac yn gallu goddef golau cryf a rhai
mathau o wynt a blas.
26. O achos yr anawsterau hynny, bydd plant, pobl
ifanc ac oedolion sydd ag awtistiaeth fod yn
bryderus ac yn ofnus, weithiau.
Os ydyn nhw’n bryderus, efallai y byddan nhw’n
ymddangos yn swil, yn wylo neu’n ymguddio.
Ar adegau eraill, gallen nhw weiddi neu daflu
pethau.
27. Rydych chi wedi dysgu llawer am awtistiaeth.
Gallwch chi helpu trwy fod yn garedig ac yn
amyneddgar a chofio popeth rydych chi wedi’i
ddysgu.
Llongyfarchiadau!!!
Rydych chi’n gwybod am
awtistiaeth!